top of page

Ydych chi'n gwybod ble rydych chi'n aros heno?

Os ydych chi'n cysgu allan, mewn perygl o fod yn aros gyda dieithriaid neu'n meddwl eich bod chi wedi aros yn rhy hir efo ffrindiau neu deulu, cysylltwch â ni heddiw.

01407 761653

RHODDWCH

Bydd £12 yn...

darparu prydau bwyd am wythnos i rywun sy'n cysgu ar y stryd

Citrus Fruits

Rhoddion...

Byddai Canolfan Ddydd y Goleudy yn gwerthfawrogi rhoddion o eitemau bwyd ffres, gan gynnwys; llaeth, bara, ffrwythau, llysiau a chig

Moving Day

Gallai £150 brynu...

pecyn cychwynnol hanfodol ar gyfer rhywun sy'n cael tenantiaeth ei hun am y tro cyntaf

Moving Day

Gallai £120 dalu am...

becyn i berson sy'n cusgu allan...

"Pan symudais i mewn i'r Llety â Chymorth, doedd gen i ddim byd, doeddwn i ddim yn gwybod sut roeddwn i fod i gael unrhyw arian na dod o hyd i unrhyw le i fyw. Pan symudais i mewn i'r prosiect, roeddwn mor ddiolchgar nid yn unig i gael fy ystafell wely a'm hystafell ymolchi fy hun ond yr oeddwn eisoes wedi cael dillad gwely, tyweli, cyllyll a ffyrc a rhywfaint o fwyd i'm rhoi ar ben ffordd. Roedd y staff a'r preswylwyr eraill mor groesawgar a charedig a oedd yn lleddfu llawer o'm pryder. Fe wnaeth staff y prosiect fy helpu i gael rhywfaint o ID, sefydlu cyfrif banc a Chredyd Cynhwysol fel y byddai gen i incwm. Ond nid yn unig hynny, yr oeddwn yn gallu cael rhywun i siarad ag ef yn rheolaidd a chael gafael ar gymorth a chyngor nad oeddwn erioed wedi'i gael o'r blaen. Rwyf wedi gallu cael cefnogaeth ar gyfer fy iechyd meddwl ac rwy'n teimlo fel person hollol wahanol cyn i mi symud i mewn. Roeddwn i'n gallu pasio fy arholiadau coleg ac rwyf hyd yn oed wedi cael fy nerbyn i'r brifysgol nawr i barhau â'm haddysg. Mae'r sgiliau rwyf wedi'u dysgu ers byw yn y prosiect wedi rhoi hyder i mi y byddaf yn gallu ymdopi â byw ar fy mhen fy hun yn y dyfodol."

Adborth Preswylwyr Coedlys

"Symudais i'r tŷ pan oeddwn i'n 20 oed. Roedd gen i bryder, iselder ac roeddwn i'n arswydo am sut beth fyddai hi. Roedden ni yn y cyfnod clo, roedd mam yn orlawn a bu'n rhaid i mi symud ar draws yr ynys. Ar y dechrau roeddwn i'n ei chael hi'n anodd dod i lawr y grisiau, ond fe wnaeth fy ngweithiwr cymorth fy helpu i roi hwb i'm hyder. Dechreuais fynd allan a chymryd rhan mewn gweithgareddau. Roeddwn i wrth fy modd gyda'r garddio, yn gwneud ffrindiau gyda phawb ac roedd y staff yn hyfryd. Tua 6 mis roeddwn i'n teimlo'n ddigon da ynof fy hun i wneud cais am swydd. Fe'i cefais, a dyma oedd hwb hyder mwyaf fy mywyd. Yn ddiweddar, cefais gyfle i symud i'r byngalos. Yr oeddwn yn amheus a oeddwn yn barod ac yn nerfus ynghylch rhannu gyda dim ond un person arall, ond yr oedd yn benderfyniad gwych. Rwy'n dal i alw heibio i'r swyddfa am sgwrs, ond rwyf wedi sylweddoli y gallaf ymdopi ar fy mhen fy hun. Rydw i ar fin symud ymlaen i'm fflat fy hun. Mae pethau gyda fy nheulu yn llawer gwell. Rydyn ni gymaint yn agosach – rydyn ni'n siarad yn rheolaidd ac rydyn ni wedi trefnu gwyliau gyda'n gilydd."

 

​Adborth Preswylwyr Llys y Gwynt​

Ystadegau 2022-23

Cyfanswm yr atgyfeiriadau

125

Canolfan Dydd y Goleudy

Cyfanswm yr atgyfeiriadau

221

 Tai â chymorth i bobl ifanc 16-24 oed

Cyfanswm a gefnogir gan y Tîm Allgymorth Cydweithredol

44

Atgyfeiriadau Cyfryngu a Ymyrraeth dan Arweiniad Teuluoedd

200

Tistysgrifau a'i ddyfarnwyd drwy y prosiect Inspire

41

NEWYDDION & DIGWYDDIADAU

4.png

Gwreiddiau Môn Roots 

 

Trosolwg o’r prosiect

Digartref Cyf yw’r sefydliad sy’n arwain prosiect partneriaeth sydd wedi derbyn grant ariannu 5 mlynedd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. 

 

Bydd prosiect Gwreiddiau Môn Roots yn darparu ystod o wahanol wasanaethau ynghyd â’i bartneriaid er mwyn atal digartrefedd a mynd i’r afael â’r stigma a’r rhagfarn sy’n wynebu pobl ddigartref.

 Mae’r bartneriaeth yn cynnwys y sefydliadu canlynol:

  • Digartrefedd Cyf - Y sefydliad sy’n arwain ac sy’n gyfrifol am gydlynu’r prosiect atal digartrefedd yma. Yn ogystal, mae’n darparu’r Gwasanaeth Rhyddhau o’r Carchar ‘Drws Tro’ ac yn mynychu’r sesiynau galw heibio/cymorthfeydd cymunedol ar hyd a lled yr Ynys. 

  • Bwyd da Môn - Bydd rhai sy’n mynychu sesiynau galw mewn/cymorthfeydd y prosiect yn cael cyfle i gofrestru ar gyfer derbyn gwerth £20 o fwyd am £5. Mae’n rhedeg gwasanaeth ‘clicio a chasglu’, sy’n galluogi i’w haelodau ddewis codi eu pecynnau bwyd o leoliad mwy cyfleus yn hytrach na gorfod teithio i wneud hynny.

  • CAB - Maent yn darparu Gweithiwr Achos Cyngor Ariannol Integredig yn ogystal â chefnogaeth gweithiwr achos cyffredinol ar gyfer materion yn ymwneud â dyled, budd-daliadau, creu cyllideb ac unrhyw faterion eraill sy’n codi. Yn ogystal, mae’n darparu’r Gwasanaeth Rhyddhau o’r Carchar ‘Drws Tro’ ac yn mynychu’r sesiynau galw i mewn/cymorthfeydd cymunedol ar hyd a lled yr Ynys. 

  • iCan - Mae’n darparu gwasanaethau ychwanegol wrth ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl, drwy gefnogi MIND (Conwy) yn uniongyrchol a thrwy weithio mewn cydweithrediad â hwy.

  • Cyngor Sir Ynys Môn - Gan weithio’n agos gyda’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol a Digartref Cyf yn ogystal â’r partneriaid eraill, mae’n adnabod ac yn cyfeirio unigolion addas/cymwys sy’n gadael y carchar ac yn dod i mewn i’r gwasanaeth, a’u galluogi i gael mynediad i lefel uchel o gefnogaeth a lleihau’r risg o golli llety a dychwelyd i'r carchar. Yn ogystal, mae’n sicrhau bod o leoliadau cwrdd ar hyd a lled ardaloedd gwledig Ynys Môn ar gael er mwyn i sesiynau galw heibio/cymorthfeydd gael eu darparu.

  • MIND (Conwy) - Maent yn darparu ymarferwr iechyd a lles er mwyn cynnig cefnogaeth un wrth un, drwy alwadau cefnogi a chyfarfodydd wyneb yn wyneb rheolaidd. Gall Mind hefyd gynnig sesiynau cwnsela er mwyn cefnogi’r rhai sydd ei angen.

  • Môn C F - Maent yn darparu cefnogaeth mewn perthynas ag anghenion cyflogaeth person, gan gynnig mentora, cefnogaeth gydag ymgeisio am swyddi, hunangyflogaeth, dechrau busnes, hyfforddiant a chyfleoedd gwirfoddoli.

  • Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol - Gan weithio’n agos gyda’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol a Digartref Cyf yn ogystal â’r partneriaid eraill, mae’n adnabod ac yn cyfeirio unigolion addas/cymwys sy’n gadael y carchar ac yn dod i mewn i’r gwasanaeth, a’u galluogi i gael mynediad at lefel uchel o gefnogaeth a lleihau’r risg o golli llety a dychwelyd i'r carchar.

  • Wild Elements - Maent yn datblygu ac yn darparu gweithgareddau i rai sy’n cael mynediad i’r prosiect ac sydd am fod yn rhan o weithgareddau Celf a Chrefft, Rhaglen Arddio, Rhaglenni Hyfforddiant a Gweithdai, yn ogystal â chyfleoedd gwirfoddoli.

 

Pwy sy'n gymwys i dderbyn cefnogaeth gan y prosiect hwn?

Rydych yn gymwys i dderbyn cefnogaeth gan y prosiect hwn os ydych yn ddigartref neu’n cael eich adnabod i fod mewn risg o fod yn ddigartref, waeth beth fo’r ffactorau eraill. Yn ogystal bydd Gwreiddiau Môn Roots yn ceisio adnabod rhai yn ardaloedd gwledig Ynys Môn lle mae digartrefedd cudd yn debygol o fod a phobl yn profi anawsterau gyda thai gan dderbyn fawr ddim cefnogaeth, ac mewn risg o golli eu cartref am wahanol resymau. 

 

Beth fydd yn cael ei ddarparu gan Digartref Cyf fel partner yn y prosiect hwn.

Mae 3 prif faes darparu gwasanaeth gan y prosiect hwn, gyda phob sefydliad partner yn dod â’i arbenigedd ei hun i sicrhau darpariaeth holistig, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.

 

1. Sesiynau galw heibio/cymorthfeydd aml-asiantaethol a chymorth un wrth un

Mae Digartref Cyf a phartneriaid y prosiect yn darparu sesiynau galw heibio/cymorthfeydd mewn ardaloedd gwledig ar Ynys Môn, gan ddefnyddio neuaddau pentref a chanolfannau cymunedol. Yn ychwanegol, bydd yn cynnig sesiynau un wrth un ac ymweliadau cartref, gan ddarparu cyngor arbenigol a gwybodaeth berthnasol, a chyfeirio ac atgyfeirio pellach, lle bo’r angen.  

 

2. Gwasanaeth rhyddhau o’r carchar

Bydd Digartref Cyf yn darparu gwasanaeth cymorth dwys i’r rhai sy’n cael eu rhyddhau o’r carchar ac sydd wedi eu hadnabod o fod wedi profi digartrefedd fwy nag unwaith, ac yn gorfod dychwelyd i’r carchar - sefyllfa ‘Drysau Tro’. Bydd y gwasanaeth yn gweithio’n agos gyda’r Gwasanaeth Carchardai a Phrawf a’r Awdurdod lleol i adnabod yr unigolion hynny sydd angen lefel uchel o gymorth wrth gael eu rhyddhau o’r carchar. 

3. Mynd i’r afael â’r stigma a rhagfarn mae pobl ddigartref yn ei wynebu

Bydd Digartref Cyf, gyda chymorth partneriaid eraill, yn ymgymryd â gweithgareddau a threfnu digwyddiadau sydd â’r nod o leihau gwahaniaethu a rhagfarn yn erbyn y rhai sy’n ddigartref, gan dargedu ysgolion, colegau, cyrff cyhoeddus, sefydliadau trydydd sector, y gymuned ehangach, prosiectau a gwasanaethau cymunedol, y GIG a.y.y.b.

bottom of page