top of page

Rôl Trysorydd Gwirfoddol Di-dâl


A hoffech chi wneud gwahaniaeth i fywydau pobl sy’n profi digartrefedd neu sydd mewn perygl o brofi digartrefedd?

Ydych chi’n meddwl y gallech chi gael effaith a gwneud gwahaniaeth?

Mae croeso ichi gysylltu.

Mae Digartref Cyf yn elusen gofrestredig, a ffurfiwyd yn 1998 i gynorthwyo gyda lleddfu digartrefedd

a’r effeithiau cysylltiedig ar unigolion, teuluoedd a’n cymuned. 

 

Dros y 27 mlynedd diwethaf rydym wedi tyfu ac ehangu’r ystod o wasanaethau rydym yn eu darparu, gan sicrhau mai nod pob ymyriad yw atal a lleihau achosion o ddigartrefedd, trawsnewid bywydau a grymuso pobl ledled Ynys Môn a Gwynedd i ddod yn annibynnol.  


Bydd ymuno â’n bwrdd yn rhoi cyfle gwych ichi helpu rhai o’r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas i ffynnu a byw eu bywydau gydag urddas. Byddech yn ymuno â thîm gwych o bobl sydd wirioneddol yn malio ac eisiau gwneud gwahaniaeth, gan roi'r bobl sydd angen ein cymorth wrth wraidd popeth a wnawn, waeth pa mor gymhleth yw eu hanghenion.

Rydym yn chwilio am Drysorydd newydd i gryfhau ac amrywio sgiliau a phrofiad ein Bwrdd. Felly, os oes gennych gefndir ym maes cyfrifeg, archwilio ariannol, profiad o reolaeth ariannol ac os ydych yn rhoi sylw i fanylion, yn chwilio am her newydd ac wedi ymrwymo i helpu pobl fregus i symud ymlaen gyda’u bywydau, hoffem glywed gennych.

Mae’r swydd Trysorydd yn gofyn am ychydig o gyswllt gydag ymddiriedolwyr eraill, yn enwedig y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd a’r Prif Swyddog Gweithredol, yn ogystal â mynychu cyfarfodydd Bwrdd, Cyfarfodydd Is-Grwpiau Cyllid a Diwrnod Cwrdd i Ffwrdd Cynllunio Busnes.

 

Cynhelir cyfarfodydd bwrdd tua 4 gwaith y flwyddyn, o 5.00pm tan 7.00pm.

Cynhelir cyfarfodydd is-grwpiau tua dwywaith y flwyddyn yn ôl yr angen.

Cynhelir Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a Diwrnod Cwrdd i Ffwrdd Cynllunio Busnes unwaith y flwyddyn ac mae’n gofyn am fewnbwn am ddiwrnod cyfan.

 

Mae gofyn i’r Trysorydd ddarparu Adroddiad Trysorydd ar gyfer y pedwar cyfarfod Bwrdd a darparu cyngor ac arweiniad ariannol i ymddiriedolwyr a’r Prif Swyddog Gweithredol i’w cynorthwyo i wneud penderfyniadau gwybodus. 


Mae’r Disgrifiad Rôl Trysorydd a'r ffurflen gais wedi’u hatodi.

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r rôl, cysylltwch gyda’n Prif Swyddog Gweithredol neu ein Cadeirydd drwy Annette Greenough enquiries@digartref.co.uk, Rhif ffôn 01407 761653

bottom of page