01407 760208
Canolfan J E O'Toole
P’un a ydych yn ddi-waith, yn sâl neu’n anabl, yn rhiant sengl, wedi ymddeol, yn ofalwr neu ar gyflog isel, gall Canolfan J.E. O'Toole eich helpu i gael yr holl fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt, rhoi cyngor a chymorth i chi hawlio’r budd-daliadau cywir, credydau treth a thaliadau yn ôl disgresiwn, cynyddu eich incwm, egluro sut yr effeithir ar eich budd-daliadau os bydd eich amgylchiadau yn newid, eich helpu i apelio os ydych yn anghytuno gyda'r penderfyniad ynghylch budd-daliadau a’ch helpu i ddelio â phroblemau eraill gyda’ch budd-daliadau.
0345 075 5005
Shelter Cymru
Rydym yn gweithio ar gyfer pobl mewn angen am dai ledled Cymru ac yn atal pobl rhag colli eu cartrefi drwy gynnig cyngor am ddim, cyfrinachol ac annibynnol. Pan fo angen byddwn yn herio mewn modd adeiladol ar ran pobl i sicrhau eu bod yn derbyn cymorth priodol a gwella arferion a dysgu.