top of page

Amdanom Ni

Mae Digartref yn elusen gofrestredig ddi-elw ac mae wedi bod yn darparu cymorth i'r rheiny y mae digartrefedd yn effeithio arnynt ers 1998.  Yn darparu atebion tymor byr a hir i'r rheiny sy'n dioddef neu sy'n wynebu risg o fod yn ddigartref.

 

Ers 1998 mae'r elusen wedi ehangu'r ystod o wasanaethau atal digartrefedd y mae'n eu darparu ac mae bellach yn cynnig cymorth i'r rhai 16 oed i fyny heb derfyn oedran uchaf.

 

Mae Digartref yn rhedeg amrywiaeth o brosiectau a rhaglenni atal digartrefedd sy'n anelu i leihau digartrefedd a'i effaith, gan sicrhau bod cymaint o bobl â phosib yn gallu defnyddio'r gefnogaeth sy'n ateb eu hanghenion a'u hamgylchiadau unigol.

​

 

 

 

 

 

 

 

Gweithio mewn modd agored a chynhwysol a bod yn atebol.

 

Hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth.

 

Sicrhau ansawdd y gwasanaeth.

 

Bod yn effeithlon ac yn effeithiol.

 

Parchu, cefnogi a grymuso'r rhai yr ydym yn gweithio gyda nhw.

 

Gwerthfawrogi, cefnogi a buddsoddi yn ein staff a'n gwirfoddolwyr.

 

Gweithio tuag at ddiwallu anghenion ein cymunedau, datblygu a chynnal partneriaethau gweithio proffesiynol.

Gwerthoedd

Nodau ac Amcanion

Nod

​

Atal digartrefedd a lleihau ei effaith ar gymunedau lleol.

 

Amcanion

 

Bydd ein nod yn cael ei chyflawni drwy'r amcanion canlynol:

 

Trwy ddatblygu rhaglenni atal digartrefedd.

 

Trwy ddarparu gwasanaethau cymorth cysylltiedig â thenantiaeth a darparu llety dros dro diogel a saff.

 

Trwy ddarparu gwasanaeth ailsefydlu, gan gynnwys darparu cyngor a gwybodaeth.

 

Trwy gyflwyno rhaglenni cyfryngu a magu plant, addysg a hyfforddiant.

bottom of page