top of page

Ydych chi'n gwybod ble rydych chi'n aros heno?

Os ydych chi'n cysgu allan, mewn perygl o fod yn aros gyda dieithriaid neu'n meddwl eich bod chi wedi aros yn rhy hir efo ffrindiau neu deulu, cysylltwch â ni heddiw.

01407 761653

RHODDWCH

Bydd £12 yn...

darparu prydau bwyd am wythnos i rywun sy'n cysgu ar y stryd

Citrus Fruits

Rhoddion...

Byddai Canolfan Ddydd y Goleudy yn gwerthfawrogi rhoddion o eitemau bwyd ffres, gan gynnwys; llaeth, bara, ffrwythau, llysiau a chig

Moving Day

Gallai £150 brynu...

pecyn cychwynnol hanfodol ar gyfer rhywun sy'n cael tenantiaeth ei hun am y tro cyntaf

Gallai £120 dalu am...

becyn i berson sy'n cusgu allan...

Mae Pecyn Cysgu allan yn cynnwys...

  • Tent

  • Bag cysgu

  • Fflasg
  • Ponsio

  • Blanced Ffoil

  • Tortsh

  • Het

  • Menig

  • Sanau

  • Hancesi papur llaith

  • Brwsh a phast dannedd

  • Pecyn cymorth cyntaf

"Pan symudais i mewn i'r Llety â Chymorth, doedd gen i ddim byd, doeddwn i ddim yn gwybod sut roeddwn i fod i gael unrhyw arian na dod o hyd i unrhyw le i fyw. Pan symudais i mewn i'r prosiect, roeddwn mor ddiolchgar nid yn unig i gael fy ystafell wely a'm hystafell ymolchi fy hun ond yr oeddwn eisoes wedi cael dillad gwely, tyweli, cyllyll a ffyrc a rhywfaint o fwyd i'm rhoi ar ben ffordd. Roedd y staff a'r preswylwyr eraill mor groesawgar a charedig a oedd yn lleddfu llawer o'm pryder. Fe wnaeth staff y prosiect fy helpu i gael rhywfaint o ID, sefydlu cyfrif banc a Chredyd Cynhwysol fel y byddai gen i incwm. Ond nid yn unig hynny, yr oeddwn yn gallu cael rhywun i siarad ag ef yn rheolaidd a chael gafael ar gymorth a chyngor nad oeddwn erioed wedi'i gael o'r blaen. Rwyf wedi gallu cael cefnogaeth ar gyfer fy iechyd meddwl ac rwy'n teimlo fel person hollol wahanol cyn i mi symud i mewn. Roeddwn i'n gallu pasio fy arholiadau coleg ac rwyf hyd yn oed wedi cael fy nerbyn i'r brifysgol nawr i barhau â'm haddysg. Mae'r sgiliau rwyf wedi'u dysgu ers byw yn y prosiect wedi rhoi hyder i mi y byddaf yn gallu ymdopi â byw ar fy mhen fy hun yn y dyfodol."

Adborth Preswylwyr Coedlys

"Symudais i'r tŷ pan oeddwn i'n 20 oed. Roedd gen i bryder, iselder ac roeddwn i'n arswydo am sut beth fyddai hi. Roedden ni yn y cyfnod clo, roedd mam yn orlawn a bu'n rhaid i mi symud ar draws yr ynys. Ar y dechrau roeddwn i'n ei chael hi'n anodd dod i lawr y grisiau, ond fe wnaeth fy ngweithiwr cymorth fy helpu i roi hwb i'm hyder. Dechreuais fynd allan a chymryd rhan mewn gweithgareddau. Roeddwn i wrth fy modd gyda'r garddio, yn gwneud ffrindiau gyda phawb ac roedd y staff yn hyfryd. Tua 6 mis roeddwn i'n teimlo'n ddigon da ynof fy hun i wneud cais am swydd. Fe'i cefais, a dyma oedd hwb hyder mwyaf fy mywyd. Yn ddiweddar, cefais gyfle i symud i'r byngalos. Yr oeddwn yn amheus a oeddwn yn barod ac yn nerfus ynghylch rhannu gyda dim ond un person arall, ond yr oedd yn benderfyniad gwych. Rwy'n dal i alw heibio i'r swyddfa am sgwrs, ond rwyf wedi sylweddoli y gallaf ymdopi ar fy mhen fy hun. Rydw i ar fin symud ymlaen i'm fflat fy hun. Mae pethau gyda fy nheulu yn llawer gwell. Rydyn ni gymaint yn agosach – rydyn ni'n siarad yn rheolaidd ac rydyn ni wedi trefnu gwyliau gyda'n gilydd."

 

​Adborth Preswylwyr Llys y Gwynt​

NEWYDDION & DIGWYDDIADAU

Ymgynghoriad

Rydym yn hynod ddiolchgar i'r grŵp o ddefnyddwyr gwasanaeth a gymerodd yr amser i siarad â rhai o'n tîm am yr anawsterau y maent yn eu hwynebu wrth gael yr help a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt, ac roeddem mor hapus i'w gweld yn mynd allan a chael amser gwych yn rasio wedyn! Dydyn ni ddim yn gwybod pwy gafodd fwy o hwyl, y raswyr na'n staff yn eu gwylio o'r cyrion! Mae diwrnodau allan fel hyn yn un o'r ffyrdd rydym yn ymgysylltu â'r bobl sy'n defnyddio ein gwasanaethau ac yn eu cefnogi ac yn rhoi cyfle i ni gael adborth gwerthfawr wrth ddarparu digwyddiadau a gweithgareddau hwyliog, cymdeithasol.  Mae adborth a mewnbwn ar ein gwasanaethau yn hanfodol i'n helpu i ddylunio a chyflwyno prosiectau sy'n gwneud gwahaniaeth yn ein cymunedau. Os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod wedi cael cefnogaeth gennym ni, neu sefydliadau neu elusennau eraill ar Ynys Môn, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Seiclo o 'Land's End' i 'John O'Groats'

Wnaeth Cadeirydd Ymddiriedolwyr Digartref Cyf, Julia Morgan, a’i gwr Wyn seiclo 1050 milltir o Land’s End i John O’Groats i godi dros £5,000 i Digartref.

GIG

Mae preswylwyr Coedlys yn ddiolgar am holl staff y GIG ac am phopeth maen nhw'n eu wneud

Cyhoeddiad

Rydym yn hynod falch o gyhoeddi, bod Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi dyfarnu grant o £1,485,219 dros 5 mlynedd i gyflwyno prosiect partneriaeth ar draws Ynys Mon a fydd yn anelu at helpu i roi diwedd ar ddigartrefedd gwledig trwy gyflawni prosiect amlasiantaeth.

Dathlu 25 mlynedd

Dathlodd Digartref ei ben-blwydd yn 25 ym mis Ionawr 2023. 


Cynhaliwyd digwyddiad dathlu yng Nghanolfan Ucheldre yng Nghaergybi, daeth llawer o bobl i’r digwyddiad gyda’r gwesteion yn cynnwys staff blaenorol a phresennol, gwirfoddolwyr, defnyddwyr gwasanaeth, ffrindiau a chefnogwyr.

Ystadegau 2022-23

Cyfanswm yr atgyfeiriadau

125

Canolfan Dydd y Goleudy

Cyfanswm yr atgyfeiriadau

221

 Tai â chymorth i bobl ifanc 16-24 oed

Cyfanswm a gefnogir gan y Tîm Allgymorth Cydweithredol

44

Tistysgrifau a'i ddyfarnwyd drwy y prosiect Inspire

41

Atgyfeiriadau Cyfryngu a Ymyrraeth dan Arweiniad Teuluoedd

200

bottom of page