top of page

Cyngor

AC AILSEFYDLU

Mae'r Gwaith Ailsefydlu a Chyngor yn wasanaeth allgymorth hyblyg ar gyfer pobl 16+ oed y mae digartrefedd yn effeithio arnynt. Mae'r gwasanaeth wedi'i anelu at anghenion defnyddwyr gwasanaeth drwy gyswllt un i un a chydweithio ag asiantaethau perthnasol eraill i gefnogi'r unigolyn i ganfod llwybr clir i atal a lleihau risgiau pellach o ddigartrefedd.

 

Mae gwaith ailsefydlu a chyngor yn hygyrch i ystod eang o bobl mewn amgylchiadau amrywiol, pobl sydd wedi cael hysbysiad troi allan, er enghraifft, neu'r rhai sydd angen cefnogaeth i gynnal tenantiaeth, pobl sy'n gadael y carchar. Mae'r ddarpariaeth yn cwmpasu Ynys Môn ac i Wynedd.

 

Mae'r gwasanaeth Ailsefydlu'n darparu cyngor parhaus, cyfarwyddiadau a chefnogaeth i ddefnyddwyr gwasanaeth, sy'n eu hannog i gael mynediad at wasanaethau eraill i ateb eu hanghenion a lleihau'r risg o ddigartrefedd; megis gwneud cais am dai â chymorth, mynd am eiddo preifat, gwasanaethau iechyd meddwl a / neu gamddefnyddio sylweddau, cyngor ar fudd-daliadau lles, cyfryngu ac ati.

 

Mae'r tîm Ailsefydlu yn cefnogi ac yn cydweithio'n agos â lleoedd gwirfoddol cymeradwy, a all ddarparu llety dros dro i bobl ifanc sy'n cael mynediad i'r gwasanaeth.

AM RAGOR O WYBODAETH

Cysylltwch â'n tîm

​

01407 761653

bottom of page