Fe'i sefydlwyd ym 1998 i liniaru digartrefedd a'r effeithiau cysylltiedig ar unigolion, teuluoedd a'n cymunedau.
Mae Digartref wedi bod yn darparu gwasanaeth Cyfryngu ers 2007, gan weithio gyda theuluoedd ac unigolion sy'n dymuno datrys gwrthdaro a dod o hyd i atebion cadarnhaol i'r heriau y maent yn eu hwynebu ar draws Ynys Môn a Gwynedd.
Mae Digartref wedi bod yn darparu gwasanaeth Cyfryngu ar draws Ynys Môn a Gwynedd ers 2007.
​
Ers hynny, mae'r gwasanaeth wedi ehangu drwy ychwanegu gwahanol weithdai, teilwra at anghenion y cymunedau a asiantaethau cyfeirio.
​
Mae'r gwasanaeth bellach yn cael ei adnabod fel 'Cyfryngu a Gweithdai Ymyrraeth dan Arweiniad Teulu'
BETH YW CYFRYNGU?
Mae cyfryngu’n golygu negodi er mwyn datrys gwrthdaro a gwella sefyllfaoedd presennol.
Mae’n wasanaeth gwirfoddol a chyfrinachol ar gyfer pobl ifanc (12+ oed) ac oedolion, wedi’i gyflwyno gan ein Cyfryngwyr hyfforddedig ac achrededig.
​
Mae ein cyfryngwyr profiadol yn chwarae rôl trydydd parti ddiduedd i gynorthwyo partïon wrth ddatrys gwrthdaro drwy ddefnyddio technegau arbenigol fel siarad, gwrando, cyfaddawdu a negodi.
​
Gellir negodi'r nifer y sesiynau gyda’n Cyfryngwyr er mwyn sicrhau bod pawb dan sylw yn cael pob cyfle i gyrraedd cytundeb ar y cyd wrth ddatrys eu gwahaniaethau.
​
Gall ein gwasanaeth Cyfryngu gael ei gynnal yn Gymraeg neu’n Saesneg.
Gall ein gwasanaeth Cyfryngu fod yn ddefnyddiol ar gyfer y sefyllfaoedd canlynol: · Teulu/Perthynas yn chwalu;
· Anghytundebau yn y gymdogaeth;
· Anghytundebau rhwng landlord a thenant;
· Anghytundebau o fewn Llety â Chymorth;
· Digartrefedd, neu mewn perygl o ddigartrefedd;
CLICIWCH YMA AM FFURFLEN ATGYFEIRIO CYFRYNGU​
AM GYNGOR PELLACH FFONIWCH CATRIN NEU GRANT
01407 761653
GWEITHDAI YMYRRAETH DAN ARWEINIAD TEULU
I rieni plant 3-10 oed, mae hynny'n cynnwys:
-
Atodiadau Positif;
-
Datblygiad Plant;
-
Strategaethau i leihau gwrthdaro;
-
Sefydlu trefniadau iach;
-
Rheoli ymddygiad positif.
I bobl ifanc rhwng 10 ac 16 oed sy'n cynnwys:
-
Gwell cyfathrebu;
-
Deall pryderon rhiant;
-
Ymwybyddiaeth o ffiniau;
-
Gyfaddawdu;
-
Lleihau gwrthdaro.
(Hefyd ar gael i rieni, gweler ESCAPE)
I rieni plant 10-16 oed, mae hynny'n cynnwys:
-
Gwell cyfathrebu;
-
Deall ymddygiadau yn eu harddegau;
-
Gosod ffiniau cadarnhaol;
-
Pryderon rhieni (Llinellau sirol, cyfryngau cymdeithasol, camddefnyddio sylweddau ayyb);
-
Datblygu cydweithrediad.
(Hefyd ar gael i bobl ifanc, gweler 'Parallel Lines')
Gweithdy ar gyfer pobl ifanc 13-17 oed ac oedolion 18+
-
Gweithdy galar a cholled arloesol
-
Cryfhau lles cymdeithasol ac emosiynol
-
Archwilio effaith newid a cholled ar fywyd bob dydd
-
Dysgu ffyrdd newydd o ymateb i'r newidiadau hyn
Mae hyd y gweithdai wedi'i deilwra i gyd-fynd ag anghenion unigol.
Am fwy o wybodaeth, cliciwch isod
​
CLICIWCH YMA AM FFURFLEN ATGYFEIRIO GWEITHDAI
AM GYNGOR PELLACH FFONIWCH CATRIN NEU GRANT
01407 761653
GWEITHDAI I DDOD
. | ESCAPE | ECLIPS | Parallel Lines | S4G Pobl Ifanc | S4G Oedolion |
---|---|---|---|---|---|
Wyneb i Wyneb | Dim ar gael | Dydd Iau | 10yb-12yp | Ionawr 26ain - Mawrth 9fed | Dydd Mercher | 4:30yp-5:30yp | Ionawr 18fed - Chwefror 15fed | Dydd Iau | 10yb-12yp | Mawrth 9fed - Mawrth 30fed | Dyddiad i'w gadarnhau |
Ar Lein | Dydd Mawrth | 5:30yp-7yh | Ionawr 24ain - Mawrth 7fed | Dim ar gael | Dim ar gael | Dim ar gael | Dyddiad i'w gadarnhau |