top of page
Beth Yw
Gwreiddiau Mon Roots ?
Digartref Cyf yw prif sefydliad prosiect partneriaeth sydd wedi derbyn grant ariannu 5 mlynedd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.  

Bydd prosiect Gwreiddiau Mon Roots yn darparu ystod o wasanaethau ochr yn ochr â'i bartneriaid sy'n ceisio atal digartrefedd, a mynd i'r afael â'r stigma a'r rhagfarn sy'n wynebu pobl ddigartref.

Mae'r bartneriaeth yn cynnwys y sefydliadau canlynol:
Large Logo Purple 2_edited.png

Digartref

Y sefydliad sy’n arwain ac sy’n gyfrifol am gydlynu’r prosiect atal digartrefedd yma. Yn ogystal, mae’n darparu’r Gwasanaeth Rhyddhau o’r Carchar ‘Drws Tro’ ac yn mynychu’r sesiynau galw heibio/cymorthfeydd cymunedol ar hyd a lled yr Ynys. 

Picture6.png

Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol

Gan weithio’n agos gyda’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol a Digartref Cyf yn ogystal â’r partneriaid eraill, mae’n adnabod ac yn cyfeirio unigolion addas/cymwys sy’n gadael y carchar ac yn dod i mewn i’r gwasanaeth, a’u galluogi i gael mynediad at lefel uchel o gefnogaeth a lleihau’r risg o golli llety a dychw

Picture5.png

Mon CF

Maent yn darparu cefnogaeth mewn perthynas ag anghenion cyflogaeth person, gan gynnig mentora, cefnogaeth gydag ymgeisio am swyddi, hunangyflogaeth, dechrau busnes, hyfforddiant a chyfleoedd gwirfoddoli.

IoACC.png

Cyngor Sir Ynys Môn

Gan weithio’n agos gyda’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol a Digartref Cyf yn ogystal â’r partneriaid eraill, mae’n adnabod ac yn cyfeirio unigolion addas/cymwys sy’n gadael y carchar ac yn dod i mewn i’r gwasanaeth, a’u galluogi i gael mynediad i lefel uchel o gefnogaeth a lleihau’r risg o golli llety a dychwelyd i'r carchar. Yn ogystal, mae’n sicrhau bod o leoliadau cwrdd ar hyd a lled ardaloedd gwledig Ynys Môn ar gael er mwyn i sesiynau galw heibio/cymorthfeydd gael eu darparu.

Picture9.png

Bwyd Da Mon

Bydd rhai sy’n mynychu sesiynau galw mewn/cymorthfeydd y prosiect yn cael cyfle i gofrestru ar gyfer derbyn gwerth £20 o fwyd am £5. Mae’n rhedeg gwasanaeth ‘clicio a chasglu’, sy’n galluogi i’w haelodau ddewis codi eu pecynnau bwyd o leoliad mwy cyfleus yn hytrach na gorfod teithio i wneud hynny.

R.jpg

Dros y pum mlynedd nesaf, bydd y bartneriaeth yn canolbwyntio ar ehangu darpariaeth mewn ardaloedd gwledig a chynnig gwasanaeth rhyddhau o'r carchar i bobl sy'n profi digartrefedd a charchariad cylchol. Mae'r prosiect wedi derbyn grant bron i £1.5 miliwn o'n rhaglen Taclo Digartrefedd, diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.

Picture3.png

Mind Conwy

Maent yn darparu ymarferwr iechyd a lles er mwyn cynnig cefnogaeth un wrth un, drwy alwadau cefnogi a chyfarfodydd wyneb yn wyneb rheolaidd. Gall Mind hefyd gynnig sesiynau cwnsela er mwyn cefnogi’r rhai sydd ei angen.

Picture8.png

Citizens Advice

Maent yn darparu Gweithiwr Achos Cyngor Ariannol Integredig yn ogystal â chefnogaeth gweithiwr achos cyffredinol ar gyfer materion yn ymwneud â dyled, budd-daliadau, creu cyllideb ac unrhyw faterion eraill sy’n codi. Yn ogystal, mae’n darparu’r Gwasanaeth Rhyddhau o’r Carchar ‘Drws Tro’ ac yn mynychu’r sesiynau galw i mewn/cymorthfeydd cymunedol ar hyd a lled yr Ynys. 

Sut I

Gallwch ofyn am gymorth yn y ffordd ganlynol:

​

Llenwch y ffurflen atgyfeirio y gellir ei lawrlwytho o www.digartref.co.uk,

​

E-bost Gwreiddiaumonroots@digartref.co.uk

​

Neu ffôniwch 01407761653.

Cyfeirio?
bottom of page