top of page

Ailgartrefu Cyflym

Mae'r prosiect ailgartrefu cyflym sydd wedi'i leoli yng Nghaergybi yn darparu 4 fflat hunangynhwysol i rai 25 oed a mwy, sy'n ddigartref a/neu sydd wedi cael llety dros dro, megis B& gan yr awdurdod lleol. Mae'r eiddo'n hunangynhwysol, wedi'u dodrefnu'n llawn a'u harfogi, gan sicrhau mynediad ar unwaith i'r rhai sy'n symud i'r cynllun hwn.

 

Mae'n ofynnol i'r rhai sy'n gymwys, weithio gyda gweithiwr cymorth Digartref i nodi a mynd i'r afael ag unrhyw anghenion cymorth a nodwyd yn gyfannol, gyda'r nod cyffredinol o symud – ymlaen a chynnal llety tymor hir.

 

Mae Digartref Cyf, yn gweithio'n rhagweithiol gyda'r cleient ochr yn ochr â thîm opsiynau tai cyngor Sir Ynys Môn i sicrhau tai addas tymor hwy i'r cleient gyda chymorth dilynol mewn perthynas â'r denantiaeth newydd am gyfnod pellach. 

​

I gyfeirio neu am gyngor pellach:

​

Galw:

01407 761653

​

E-bost:

enquiries@digartref.co.uk

bottom of page